Y Pwyllgor Menter a Busnes |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 13 Gorffennaf 2011 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
10: - 12:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Andrew RT Davies (Cadeirydd) Byron Davies Keith Davies Julie James Alun Ffred Jones William Powell David Rees Ken Skates Joyce Watson Leanne Wood |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Leighton Andrews, y Gweinidog Addysg a Sgiliau Jeff Cuthbert, y Dirprwy Weinidog Sgiliau Emyr Roberts, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Owen Evans, Cyfarwyddwr, Grŵp Sgiliau, Addysg Uwch a Dysgu Gydol Oes Carl Sargeant, y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau Jeff Collins, Cyfarwyddwr, Y Grŵp Seilwaith Tim James, Dirprwy Gyfarwyddwr, Rhwydweithiau a Chynllunio |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Meriel Singleton (Clerc) Ryan Bishop (Dirprwy Glerc) |
|||
|
|
||||
1. Ymddiheuriadau a Dirprwyon (10:00 - 10:05)
1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Nid oedd dim ymddiheuriadau.
2. Craffu ar waith y Gweinidog : Addysg a Sgiliau (10.05 - 11.00)
2.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog Addysg a Sgiliau, y Dirprwy Weinidog Sgiliau a’u swyddogion i’r cyfarfod. Cafodd y Gweinidogion eu holi gan yr Aelodau.
2.2 Cytunodd y Gweinidogion i ddarparu rhagor o wybodaeth am:
· Data ychwanegol am y gwahaniaeth rhwng y rhywiau yn y maes adeiladu
· Adroddiad ynghylch y diweddaraf am y 18 cam gweithredu yn y Cynllun Gweithredu Ymgysylltiad a Chyflogaeth Pobl Ifanc 2011-2015
· Gwybodaeth am y cyfraddau o bobl sy’n rhoi’r gorau i brentisiaethau.
3. Craffu ar waith y Gweinidog : Trafnidiaeth (11.00 - 12.00)
3.1 Croesawodd y Cadeirydd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, a’i swyddogion, i’r cyfarfod.
3.2 Cytunodd y Gweinidog i ddarparu rhagor o wybodaeth am:
· Newidiadau i werthuso a monitro prosiectau trafnidiaeth i reoli gorwariant
· Argaeledd arian cydgyfeirio ar gyfer trydaneiddio’r cyswllt rheilffordd rhwng Abertawe a Llundain, a’r cyfrifoldeb dros ariannu’r gwaith hwn
· Cyflwyno trenau deufodd, a’r cynnig i dreialu’r rhain ar y llwybr rhwng Caerdydd ac Abertawe
· Yr angen i wella’r cysylltiadau seilwaith rheilffordd heibio i Gaerdydd
· Achos busnes Llywodraeth flaenorol y DU dros drydaneiddio’r rheilffordd i Abertawe, a’r newidiadau sydd wedi digwydd ers llunio hynny
· Y newid yn y cydbwysedd gwariant rhwng prosiectau ffyrdd a rheilffyrdd, a’r cynlluniau ynghylch beth ddylai’r cydbwysedd hwn fod yn y dyfodol
· Cynnydd o ran cyflwyno gwasanaeth bob awr rhwng Amwythig ac Aberystwyth
· Y rhaglen Gwelliant Cenedlaethol i orsafoedd trenau
4. Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau
4.1Roedd llythyr wedi cyrraedd oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, a chytunodd y Cadeirydd i’w ddosbarthu i’r Aelodau.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.